Cymraeg English

 



Cyfieithu ar y Pryd

Cyfieithu Ysgrifenedig

Mentrau Iaith

 


 

Newyddion

Newyddion 2
Gleision Caerdydd yn Gweithredu'n Ddwyieithog

Warning: fopen() [function.fopen]: URL file-access is disabled in the server configuration in /homepages/42/d38295924/htdocs/cyfieithu/style/storicolofn.php on line 63

Warning: fopen(http://www.menteriaith.org/llunnewydion/LansGleision1206.jpg) [function.fopen]: failed to open stream: no suitable wrapper could be found in /homepages/42/d38295924/htdocs/cyfieithu/style/storicolofn.php on line 63
Ers dechrau'r tymor rygbi newydd y mae newid yng nghynnwys rhaglen Gleision Caerdydd. O ganlyniad i bartneriaeth rhwng y Gleision, Uned Gyfieithu Mentrau Iaith Morgannwg Gwent a Chymdeithas Chwaraeon Cymru y mae tudalen Gymraeg yn ymddangos ym mhob rhifyn.

Dywedodd Gwydion Griffiths, Swyddog Marchnata a'r Wasg Gleision Caerdydd 'Y mae Gleision Caerdydd wedi mwynhau partneriaeth waith wych â Menter Iaith ers i'r cynllun gael ei lansio ar ddechrau'r tymor 2006/07. Y mae'r cyfieithiadau bob tro yn cael eu dychwelyd mewn da bryd ac o'r safon uchaf. Y mae'r gwasanaeth hwn yn galluogi ein cefnogwyr ledled y rhanbarth i ddarllen am y tîm naill ai drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg ac y mae wedi bod yn boblogaidd iawn gyda'r cefnogwyr - yn enwedig y rhai ifainc'.

Ychwanegodd Rhian Powell, Cyfieithydd Cymunedol Mentrau Morgannwg Gwent 'Y mae'n dda gweld bod sefydliadau sydd wedi arfer ar weithio'n uniaith Saesneg yn awr yn sylweddoli pa mor fuddiol ydyw i weithio'n ddwyieithog a gobeithiaf y bydd y bartneriaeth hon yn parhau i fynd o nerth i nerth a bydd rhagor o sefydliadau yn yr ardal yn dilyn esiampl Gleision Caerdydd'.

Meddai Ceri Thomas, Cymdeithas Chwaraeon Cymru, 'Mae'r cam cyntaf yma yn dangos pa mor awyddus yw'r Gleision i gyrraedd cymdeithas Gymraeg y rhanbarth, sydd yn cynnwys mwy na 60,000 o siaradwyr Cymraeg. Mae hyn yn dilyn rhaglen y Gymdeithas i brif-ffrydio'r Gymraeg i chwaraeon yng Nghymru. Y cam nesaf yw creu'r awyrgylch cywir i ddatblygwyr maes y Gleision ddarparu datblygiad y Gymraeg yn y maes gan ddefnyddio a chydweithredu â gwasanaethau Cymraeg lleol y rhanbarth. Da iawn y Gleision!'

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:
Ceri Thomas, Swyddog Datblygu'r Gymraeg, 02920649865, ceri.thomas@welshsports.org.uk

Llun o: Ceri Thomas Cymdeithas Chwaraeon Cymru, Nicky Robinson, Robin Sowden-Taylor, Mike Phillips and Rhys Williams Gleision Caerdydd, Rhian Powell o Mentrau Morgannwg Gwent, Siôn Williams athro efo disgyblion Ysgol Gynradd Gymuned Gymraeg Llantrisant.

18/12/2006

Cyfieithu ar y pryd

Warning: fopen() [function.fopen]: URL file-access is disabled in the server configuration in /homepages/42/d38295924/htdocs/cyfieithu/style/storicolofn.php on line 63

Warning: fopen(http://www.menteriaith.org/llunnewydion/cyfieithua0306.jpg) [function.fopen]: failed to open stream: no suitable wrapper could be found in /homepages/42/d38295924/htdocs/cyfieithu/style/storicolofn.php on line 63
Mae Menter Iaith wedi trefnu Cwrs Cyfieithu ar y Pryd llwyddiannus iawn ym Mhrifysgol Morgannwg. O dan ofal y cyfieithydd profiadol, Elin Tudur, mae criw o oedolion brwdfrydig wedi bod yn dysgu'r sgiliau i alluogi pobl i ddefnyddio'r Gymraeg mewn cyfarfodydd dwyieithog.
Warning: fopen() [function.fopen]: URL file-access is disabled in the server configuration in /homepages/42/d38295924/htdocs/cyfieithu/style/storicolofn.php on line 115

Warning: fopen(http://www.menteriaith.org/llunnewydion/cyfieithub0306.jpg) [function.fopen]: failed to open stream: no suitable wrapper could be found in /homepages/42/d38295924/htdocs/cyfieithu/style/storicolofn.php on line 115

23/03/2006
Cyfarfod Dwyieithog Interlink

Warning: fopen() [function.fopen]: URL file-access is disabled in the server configuration in /homepages/42/d38295924/htdocs/cyfieithu/style/storicolofn.php on line 63

Warning: fopen(http://www.menteriaith.org/llunnewydion/Interlinka1106.jpg) [function.fopen]: failed to open stream: no suitable wrapper could be found in /homepages/42/d38295924/htdocs/cyfieithu/style/storicolofn.php on line 63
Cynhaliodd Interlink gyflwyniad ar waith rhaglen Gwirfoddolwyr y Mileniwm yng Nghanolfan Dysgu Gydol Oes Garth Olwg ar 16eg Tachwedd 2006. Er mwyn cadw naws dwyieithog y ganolfan gofynnwyd i Rhian Powell, Cyfieithydd Cymunedol Mentrau Morgannwg Gwent ddarparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd i’r rhyw 70 o bobl a oedd yn bresennol.
Meddai Bev Hampson, Interlink a threfnydd y digwyddiad ‘the excellent translation service enabled contributions in Welsh in line with the ethos of a bilingual centre’.

Warning: fopen() [function.fopen]: URL file-access is disabled in the server configuration in /homepages/42/d38295924/htdocs/cyfieithu/style/storicolofn.php on line 115

Warning: fopen(http://www.menteriaith.org/llunnewydion/Interlinkb1106.jpg) [function.fopen]: failed to open stream: no suitable wrapper could be found in /homepages/42/d38295924/htdocs/cyfieithu/style/storicolofn.php on line 115

29/11/2006

HYFFORDDI CYFIEITHWYR
Bydd y cyfieithydd profiadol o Gaerdydd Elin Tudur yn arwain cwrs cyfieithu ar y pryd ym Mhrifysgol Morgannwg. Y mae’r cwrs hynod o lwyddiannus yn gyfle i bobl nad ydynt yn gyfieithwyr o ran eu gwaith ddysgu sgil newydd a’i defnyddio at ddibenion cymunedol e.e. darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd yn ystod cyfarfodydd ysgol neu grŵp cymunedol.
Enghraifft o rywun sydd wedi cael budd o’r cwrs yw Rhian Powell, sydd yn awr yn gweithio fel Cyfieithydd Cymunedol Morgannwg Gwent, ond, ar y pryd yr oedd yn fyfyrwraig Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru Abertawe.
‘Mynychais i’r cwrs cyfieithu ar y pryd bedair blynedd yn ôl tra oeddwn yn astudio tuag at fy ngradd gan ddefnyddio’r cwrs fel cyfle i ehangu fy sgiliau ac fel rhywbeth ychwanegol i’w roi ar fy CV. Erbyn hyn yr wyf yn falch iawn imi benderfynu gwneud y cwrs oherwydd, yn y pendraw, y mae wedi arwain at swydd - er nad dyna oedd y bwriad ar y pryd’.
Y mae Rhian hefyd yn awyddus i bwysleisio mai cwrs ar gyfer unrhyw un sydd yn medru’r Gymraeg ydyw ‘Yr wyf wedi siarad â sawl person sydd â diddordeb mewn gwneud y cwrs ond yn meddwl nad ydynt yn gallu am nad ydynt yn gyfieithwyr. Y mae hyn yn gwbl anghywir oherwydd er y gall rhywun gyfieithu ar bapur y mae cyfieithu ar y pryd yn grefft gwbl wahanol’.
Bydd y cwrs yn cael ei gynnal bob nos Lun 7.00 tan 9.00 am 5 wythnos ym Mhrifysgol Morgannwg gan ddechrau ar 27ain Chwefror 2006.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â
Rhian Powell ar 01685 877183
neu drwy e-bostio rhianpowell@menteriaith.org
12/01/2006
Lansio Llyfr Newydd

Warning: fopen() [function.fopen]: URL file-access is disabled in the server configuration in /homepages/42/d38295924/htdocs/cyfieithu/style/storicolofn.php on line 63

Warning: fopen(http://www.menteriaith.org/llunnewydion/LansioBymbl06.jpg) [function.fopen]: failed to open stream: no suitable wrapper could be found in /homepages/42/d38295924/htdocs/cyfieithu/style/storicolofn.php on line 63
Yng ngŵyl Parti Ponty 2006 lansiwyd cyfieithiad llyfr ‘Diwrnod Caled Bymbl’ gan awdur lleol Aeron Elias. Y mae’r llyfr yn rhan o gyfres a bydd Rhian Powell yn dechrau gweithio ar gyfieithu’r llyfr nesaf yn y dyfodol agos.

05/07/2006

Cwrs Cyfieithu ar y pryd

Warning: fopen() [function.fopen]: URL file-access is disabled in the server configuration in /homepages/42/d38295924/htdocs/cyfieithu/style/storicolofn.php on line 63

Warning: fopen(http://www.menteriaith.org/llunnewydion/cyfieithu0305.jpg) [function.fopen]: failed to open stream: no suitable wrapper could be found in /homepages/42/d38295924/htdocs/cyfieithu/style/storicolofn.php on line 63
Dyma fynychwyr y Cwrs Cyfieithu ar y Pryd yn cael budd wrth i'r cyfieithydd profiadol Elin Tudur rannu ei phrofiadau gyda nhw.
Ymwelodd Alun Thomas, gohebydd BBC Radio Cymru a'r dosbarth gan gyfweld a phobl y cwrs ar gyfer eitem radio ar gyfieithu a chyfieithwyr.
Warning: fopen() [function.fopen]: URL file-access is disabled in the server configuration in /homepages/42/d38295924/htdocs/cyfieithu/style/storicolofn.php on line 115

Warning: fopen(http://www.menteriaith.org/llunnewydion/cyfieithua0305.jpg) [function.fopen]: failed to open stream: no suitable wrapper could be found in /homepages/42/d38295924/htdocs/cyfieithu/style/storicolofn.php on line 115

02/03/2005
 

CYFIEITHIADAU
YN RHAD AC AM DDIM!*

Ydych chi’n aelod o fudiad gwirfoddol neu grŵp cymunedol?

Hoffech chi ddefnyddio gwasanaeth cyfieithu ond yn poeni am y gost?

Cysylltwch â Rhian Powell, Cyfieithydd Cymunedol Mentrau Morgannwg Gwent i weld sut y gellwch chi dderbyn hyd at 500 gair wedi’u cyfieithu yn rhad ac am ddim!

Meddai Rhian Powell ‘Nod y cynllun hwn yw hyrwyddo defnydd y Gymraeg gan grwpiau sydd naill ai heb ystyried cyfieithu eu deunydd i’r Gymraeg neu sydd eisiau cyfieithu eu deunydd ond wedi ystyried y gost yn rhwystr mawr rhag ei wneud’.

Am ragor o wybodaeth ar sut y gall y cynllun hwn fod o fudd i chi cysylltwch â Rhian Powell ar
01685 877183 neu drwy e-bostio rhianpowell@menteriaith.org

CARIAD @ GYFIEITHU

Ers mis Medi 2004, y mae Rhian Powell, Cyfieithydd Cymunedol Menter Iaith wedi dangos ei chariad at gyfieithu Cymraeg / Saesneg. Y mae ei gwasanaeth cyfieithu ar bapur a chyfieithu ar y pryd cyflym, cywir a dibynadwy yn boblogaidd dros ben gyda sefydliadau yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r sector gwirfoddol.
Y mae ei chleientiaid yn cynnwys grwpiau cymunedol, sydd yn derbyn gwasanaeth cyfieithu naill ai yn ddi-dâl, fel rhan o’r cynnig i gyfieithu’r 500 gair cyntaf yn rhad ac am ddim, neu am bris gostyngol, yn ogystal â sefydliadau mwy sydd wedi dewis defnyddio’r iaith Gymraeg am y tro cyntaf. Hefyd, y mae cwmnïau preifat yn awr yn elwa o ganlyniad i gynnig gwasanaeth dwyieithog.
Ynghyd â’r rhain y mae cyrff sector preifat sydd yn gorfod cynnig gwasanaeth dwyieithog yn unol â Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn cael ei gwasanaeth cyfieithu ar y pryd yn ddefnyddiol dros ben.
‘Y mae wedi bod yn wych i gael bod yn rhan o beth sydd, yn y bôn, yn chwyldro i rai o’r sefydliadau hyn. Y mae’r gwasanaeth cyfieithu ar y pryd wedi galluogi siaradwyr Cymraeg i gyfrannu i gyfarfodydd yn eu mamiaith – yr iaith y maent yn fwy cyffyrddus yn ei defnyddio - heb amharu ar lif y cyfarfod. Yr wyf yn falch bod fy nghariad at gyfieithu yn gallu helpu cymaint o sefydliadau’ meddai Rhian Powell.
Yng ngŵyl Parti Ponty 2006 lansiwyd cyfieithiad llyfr ‘Diwrnod Caled Bymbl’ gan awdur lleol Aeron Elias. Y mae’r llyfr yn rhan o gyfres a bydd Rhian yn dechrau gweithio ar gyfieithu’r llyfr nesaf yn y dyfodol agos. Os hoffech ragor o fanylion am y gwasanaeth cyfieithu neu am y llyfr cysylltwch â Rhian Powell ar 01685 877183 neu drwy e-bostio rhianpowell@menteriaith.org

 

 

Urddo’r Cyfieithydd Cymunedol i Orsedd Beirdd Ynys Prydain

Cafodd Rhian Powell, Cyfieithydd Cymunedol Mentrau Morgannwg Gwent ei hurddo i Wisg Las Gorsedd Beirdd Ynys Prydain yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Abertawe a’r Cylch 2006. Dywedodd Rhian ‘Yr oedd yn hynod o fraint imi gael fy nerbyn i’r Orsedd ac yr oedd yr achlysur hyd yn oed yn fwy arbennig am mai yn Abertawe y gynhaliwyd y seremoni wedi imi dreulio pedair blynedd yn astudio tuag at radd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru Abertawe’.

Enw gorsedd Rhian fydd ‘Ceri’r Waun Hir’ (Ceri yw ei henw canol ac y mae’n hanu o Hirwaun, Cwm Cynon).

 

Gorsedd 2006

Gorsedd 2006

Tudalen Cymraeg y Gleision