Cymraeg English

 



Cyfieithu ar y Pryd

Cyfieithu Ysgrifenedig

Mentrau Iaith

 


 

Newyddion


Warning: Division by zero in /homepages/42/d38295924/htdocs/cyfieithu/style/storicolofn.php on line 27

Warning: Division by zero in /homepages/42/d38295924/htdocs/cyfieithu/style/storicolofn.php on line 28

Dewiswch
Gweithio Mewn Partneriaeth â Chyngor RhCT 17/09/2007
Lansio Llyfr Newydd i Blant 17/08/2007
Diogelu Grant Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo 23/05/2007
Diogelu Grant Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo 23/01/2007
Gleision Caerdydd yn Gweithredu'n Ddwyieithog 18/12/2006
Cyfarfod Dwyieithog Interlink 29/11/2006
Lansio Llyfr Newydd 05/07/2006
Cyfieithu ar y pryd 23/03/2006
HYFFORDDI CYFIEITHWYR 12/01/2006
Cwrs Cyfieithu ar y pryd 02/03/2005
Gwasanaeth Cyfeithu yn Datblygu 30/12/2004
CYFIEITHU YN CYNYDDU 50% 12/08/2003
Gweithio Mewn Partneriaeth â Chyngor RhCT
Mae’n bleser gan wasanaeth cyfieithu Mentrau Morgannwg Gwent gyhoeddi ei fod yn awr yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.
Ers mis Awst 2007 mae Rhian Powell, Cyfieithydd Cymunedol Mentrau Morgannwg Gwent wedi bod wrthi’n cyfieithu cytundeb gwaith swmpus y Cyngor ac meddai ‘Mae derbyn y cytundeb hwn yn dyst i safon gwasanaeth cyfieithu Mentrau Morgannwg Gwent boed ar gyfer y sector gwirfoddol, y sector preifat neu’r sector cyhoeddus a gobeithiaf y bydd y bartneriaeth hon yn parhau i ddwyn ffrwyth yn y dyfodol’.
Am ragor o wybodaeth ar wasanaeth cyfieithu Mentrau Morgannwg Gwent cysylltwch â Rhian Powell ar 01685 877183 neu drwy e-bostio: rhianpowell@menteriaith.org
17/09/2007
 

CYFIEITHIADAU
YN RHAD AC AM DDIM!*

Ydych chi’n aelod o fudiad gwirfoddol neu grŵp cymunedol?

Hoffech chi ddefnyddio gwasanaeth cyfieithu ond yn poeni am y gost?

Cysylltwch â Rhian Powell, Cyfieithydd Cymunedol Mentrau Morgannwg Gwent i weld sut y gellwch chi dderbyn hyd at 500 gair wedi’u cyfieithu yn rhad ac am ddim!

Meddai Rhian Powell ‘Nod y cynllun hwn yw hyrwyddo defnydd y Gymraeg gan grwpiau sydd naill ai heb ystyried cyfieithu eu deunydd i’r Gymraeg neu sydd eisiau cyfieithu eu deunydd ond wedi ystyried y gost yn rhwystr mawr rhag ei wneud’.

Am ragor o wybodaeth ar sut y gall y cynllun hwn fod o fudd i chi cysylltwch â Rhian Powell ar
01685 877183 neu drwy e-bostio rhianpowell@menteriaith.org

CARIAD @ GYFIEITHU

Ers mis Medi 2004, y mae Rhian Powell, Cyfieithydd Cymunedol Menter Iaith wedi dangos ei chariad at gyfieithu Cymraeg / Saesneg. Y mae ei gwasanaeth cyfieithu ar bapur a chyfieithu ar y pryd cyflym, cywir a dibynadwy yn boblogaidd dros ben gyda sefydliadau yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r sector gwirfoddol.
Y mae ei chleientiaid yn cynnwys grwpiau cymunedol, sydd yn derbyn gwasanaeth cyfieithu naill ai yn ddi-dâl, fel rhan o’r cynnig i gyfieithu’r 500 gair cyntaf yn rhad ac am ddim, neu am bris gostyngol, yn ogystal â sefydliadau mwy sydd wedi dewis defnyddio’r iaith Gymraeg am y tro cyntaf. Hefyd, y mae cwmnïau preifat yn awr yn elwa o ganlyniad i gynnig gwasanaeth dwyieithog.
Ynghyd â’r rhain y mae cyrff sector preifat sydd yn gorfod cynnig gwasanaeth dwyieithog yn unol â Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn cael ei gwasanaeth cyfieithu ar y pryd yn ddefnyddiol dros ben.
‘Y mae wedi bod yn wych i gael bod yn rhan o beth sydd, yn y bôn, yn chwyldro i rai o’r sefydliadau hyn. Y mae’r gwasanaeth cyfieithu ar y pryd wedi galluogi siaradwyr Cymraeg i gyfrannu i gyfarfodydd yn eu mamiaith – yr iaith y maent yn fwy cyffyrddus yn ei defnyddio - heb amharu ar lif y cyfarfod. Yr wyf yn falch bod fy nghariad at gyfieithu yn gallu helpu cymaint o sefydliadau’ meddai Rhian Powell.
Yng ngŵyl Parti Ponty 2006 lansiwyd cyfieithiad llyfr ‘Diwrnod Caled Bymbl’ gan awdur lleol Aeron Elias. Y mae’r llyfr yn rhan o gyfres a bydd Rhian yn dechrau gweithio ar gyfieithu’r llyfr nesaf yn y dyfodol agos. Os hoffech ragor o fanylion am y gwasanaeth cyfieithu neu am y llyfr cysylltwch â Rhian Powell ar 01685 877183 neu drwy e-bostio rhianpowell@menteriaith.org

 

 

Urddo’r Cyfieithydd Cymunedol i Orsedd Beirdd Ynys Prydain

Cafodd Rhian Powell, Cyfieithydd Cymunedol Mentrau Morgannwg Gwent ei hurddo i Wisg Las Gorsedd Beirdd Ynys Prydain yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Abertawe a’r Cylch 2006. Dywedodd Rhian ‘Yr oedd yn hynod o fraint imi gael fy nerbyn i’r Orsedd ac yr oedd yr achlysur hyd yn oed yn fwy arbennig am mai yn Abertawe y gynhaliwyd y seremoni wedi imi dreulio pedair blynedd yn astudio tuag at radd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru Abertawe’.

Enw gorsedd Rhian fydd ‘Ceri’r Waun Hir’ (Ceri yw ei henw canol ac y mae’n hanu o Hirwaun, Cwm Cynon).

 

Gorsedd 2006

Gorsedd 2006

Tudalen Cymraeg y Gleision