CYFIEITHIADAU
YN RHAD AC AM DDIM!*
Ydych chi’n aelod o fudiad gwirfoddol neu grŵp cymunedol?
Hoffech chi ddefnyddio gwasanaeth cyfieithu ond yn poeni am y gost?
Cysylltwch â Rhian Powell, Cyfieithydd Cymunedol Mentrau Morgannwg Gwent i weld sut y gellwch chi dderbyn hyd at 500 gair wedi’u cyfieithu yn rhad ac am ddim!
Meddai Rhian Powell ‘Nod y cynllun hwn yw hyrwyddo defnydd y Gymraeg gan grwpiau sydd naill ai heb ystyried cyfieithu eu deunydd i’r Gymraeg neu sydd eisiau cyfieithu eu deunydd ond wedi ystyried y gost yn rhwystr mawr rhag ei wneud’.
Am ragor o wybodaeth ar sut y gall y cynllun hwn fod o fudd i chi cysylltwch â Rhian Powell ar
01685 877183 neu drwy e-bostio rhianpowell@menteriaith.org |
CARIAD @ GYFIEITHU
Ers mis Medi 2004, y mae Rhian Powell, Cyfieithydd Cymunedol Menter Iaith wedi dangos ei chariad at gyfieithu Cymraeg / Saesneg. Y mae ei gwasanaeth cyfieithu ar bapur a chyfieithu ar y pryd cyflym, cywir a dibynadwy yn boblogaidd dros ben gyda sefydliadau yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r sector gwirfoddol.
Y mae ei chleientiaid yn cynnwys grwpiau cymunedol, sydd yn derbyn gwasanaeth cyfieithu naill ai yn ddi-dâl, fel rhan o’r cynnig i gyfieithu’r 500 gair cyntaf yn rhad ac am ddim, neu am bris gostyngol, yn ogystal â sefydliadau mwy sydd wedi dewis defnyddio’r iaith Gymraeg am y tro cyntaf. Hefyd, y mae cwmnïau preifat yn awr yn elwa o ganlyniad i gynnig gwasanaeth dwyieithog.
Ynghyd â’r rhain y mae cyrff sector preifat sydd yn gorfod cynnig gwasanaeth dwyieithog yn unol â Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn cael ei gwasanaeth cyfieithu ar y pryd yn ddefnyddiol dros ben.
‘Y mae wedi bod yn wych i gael bod yn rhan o beth sydd, yn y bôn, yn chwyldro i rai o’r sefydliadau hyn. Y mae’r gwasanaeth cyfieithu ar y pryd wedi galluogi siaradwyr Cymraeg i gyfrannu i gyfarfodydd yn eu mamiaith – yr iaith y maent yn fwy cyffyrddus yn ei defnyddio - heb amharu ar lif y cyfarfod. Yr wyf yn falch bod fy nghariad at gyfieithu yn gallu helpu cymaint o sefydliadau’ meddai Rhian Powell.
Yng ngŵyl Parti Ponty 2006 lansiwyd cyfieithiad llyfr ‘Diwrnod Caled Bymbl’ gan awdur lleol Aeron Elias. Y mae’r llyfr yn rhan o gyfres a bydd Rhian yn dechrau gweithio ar gyfieithu’r llyfr nesaf yn y dyfodol agos. Os hoffech ragor o fanylion am y gwasanaeth cyfieithu neu am y llyfr cysylltwch â Rhian Powell ar 01685 877183 neu drwy e-bostio rhianpowell@menteriaith.org |
Urddo’r Cyfieithydd Cymunedol i Orsedd Beirdd Ynys Prydain
Cafodd Rhian Powell, Cyfieithydd Cymunedol Mentrau Morgannwg Gwent ei hurddo i Wisg Las Gorsedd Beirdd Ynys Prydain yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Abertawe a’r Cylch 2006. Dywedodd Rhian ‘Yr oedd yn hynod o fraint imi gael fy nerbyn i’r Orsedd ac yr oedd yr achlysur hyd yn oed yn fwy arbennig am mai yn Abertawe y gynhaliwyd y seremoni wedi imi dreulio pedair blynedd yn astudio tuag at radd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru Abertawe’.
Enw gorsedd Rhian fydd ‘Ceri’r Waun Hir’ (Ceri yw ei henw canol ac y mae’n hanu o Hirwaun, Cwm Cynon).
|


|